Addysgwyd Matt yn Ysgol Uwchradd Caerdydd cyn graddio gyda LLB yn y Gyfraith o’r Queen Mary, Prifysgol Llundain a LLM mewn Llywodraethu a Datganoli o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl graddio, bu Matt yn gweithio i Paul Flynn AS a Ruth Jones AS mewn amryw o rolau, yn y cyfamser yn rhedeg Cymdeithas Fabian yng Nghymru ac yn eistedd ar y Pwyllgor Cenedlaethol Open Labour. Matt yw cyflwynydd Podlediad Gwleidyddiaeth Cymru, Hiraeth ac mae ganddo ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth gymharol y DU.

Mae Matt yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig, Chloe a’u dwy gath.

Ebost: matt@positif.wales