PWYSAU IACH: CYMRU IACH
Dydd Mercher, 22ain Mai, 6pm, Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Ym mis Ionawr 2019, lansiodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC ymgynghoriad ar gynllun newydd Llywodraeth Cymru er mwyn ymrafael a phroblem iechyd cyhoeddus mwyaf Cymru – gordewdra.
Mae Pwysau Iach: Cymru Iach yn amlinellu’r gweithredu sydd angen er mwyn helpu pobl Cymru i gynnal pwysau iach. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar y 12fed o Ebrill 2019.
Bydd Positif Thinking yn cynnal panel drafod er mwyn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad, gan edrych ar y 4 prif thema:
- Arweinyddiaeth a Galluogi Newid
- Amgylcheddau Iach
- Lleoliadau Iach
- Pobl Iach
Bydd aelodau ein panel yn cynnwys Dr Dai Lloyd AC, Dawn Bowden AM, Andy Glyde (Cancer Research UK) a Kate Evans (Cymdeithas Chwaraeon Cymru).
Os hoffech fynychu’r digwyddiad RHAD AC AM DDIM yma yna e-bostiwch susan@positif.cymru os gwelwch yn dda.