Rydym nawr hanner ffordd trwy’r pumed Cynulliad ac mae Positif yn defnyddio’r cyfle i gynnal sesiwn drafod i gleientiaid ac eraill a diddordeb ar beth sydd ar y gweill dros y ddwy flynedd a hanner nesaf yng ngwleidyddiaeth yng Nghymru.
Wedi ei arwain gan Positif, fe fydd dau brif ffocws i’r digwyddiad:
- Beth allem ddisgwyl gan lywodraeth Llafur dros y ddwy flynedd a hanner nesaf, gan gynnwys sylw am etholiad arweinyddiaeth Llafur
- Trafodaeth gyda Paul Davies AC, Ceidwadwyr Cymreig a Helen Mary Jones AC, Plaid Cymru, ar blaenoriaethau a heriau eu pleidiau dros yr un cyfnod.
Gwahoddir chi i ymuno a ni yn Coffi Co ym Mae Caerdydd (bwyty Bosphorous gynt) rhwng 2yh a 5yh, dydd Llun 5ed Tachwedd.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim ond gofynnir i chi gofrestru gyda susan@positif.cymru.